Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru drafft
2019 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “money market fund” yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239 (Cy. 319)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
oFFERYNNAU STATUDOL Cymru drafft
2019 Rhif (Cy. )
YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Gwnaed ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]) a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael([2]).
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003
2. Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003([3]), yn y diffiniad o “money market fund”, hepgorer paragraff (a).
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad